Croeso i Bwydlŷn.

Rydym yn gwmni teuluol o ogledd Cymru gyda siopa ym Mhwllheli a Phorthmadog. Rydym yn arbenigo mewn darparu cig oen a chig eidion Cymreig o safon. Mae cefndir ein cig ni i gyd wedi ei ardystio a gwarantir ei fod o'r safon uchaf.

 

Bwydlyn Team Welsh Lamb Logo
Welsh Beef Logo

Fe wnawn ni ddanfon cig i'ch cartref sydd mor ffres ag y byddai petaech chi wedi ei brynu yn un o'n siopau. Yn Bwydlŷn rydym yn defnyddio pecynnau a chludydd arbenigol er mwyn sicrhau fod unrhyw beth a archebwch gennym yn cyrraedd mewn da bryd y diwrnod canlynol, ac mor ffres â phan adawodd y siop.

Ar hyn o bryd, allwn ni ddim ond danfon i lefydd ar dir mawr Prydain

Gallwch roi eich archeb ar-lein, trwy fynd i'r dewis Siopio Arlein. Fe allwch chi hefyd fwrw golwg dros ein hamrediad o gigoedd o safon a rhoi eich archeb dros y ffôn - rhowch alwad i ni 01766 512288. Dewiswch y dull sydd orau gennych chi ar gyfer derbyn y nwyddau adref neu drefnu i'w casglu yn y siop.

Rhannwch y profiad o gig eidion Cymreig blasus neu gig oen Cymreig amheuthun trwy anfon tystysgrif rhodd i aelod o'ch teulu neu i ffrind. Ewch i 'Tystysgrifau Rhodd' a gadewch y gweddill yng ngofal tîm Bwydlŷn.

Gallwch weld ein Gwobr Gogledd Cymru 2005 am Ragoriaeth mewn  Cynnyrch Cig - gallwch archebu'r cynnyrch arobryn yma ar-lein heddiw gan Bwydlŷn wrth glicio ar un o'r Gwobrwyon isod. 

BeefburgersLamburgers

Home cured baconPork Sage & Onion Sausage

Traditional Pork Sausage

 

 

 

 

Home | About Us | Contact Us | Our Customers | Help | Shop Online | Featured Products | New Products | My Account | My Basket | Site Map